O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Bob Harris & Colin Hall : The Songs the Beatles Gave Away

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 27 Medi 2024 Celfyddydau: Gair ar lafar
Bob Harris & Colin Hall : The Songs the Beatles Gave Away

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 27 Medi 2024 Gwe 27 Medi 2024 27 Medi 24 8:00pm

Mae darlledwr enwog Radio 2, Bob Harris, ac archifydd cerddoriaeth enwog, Colin Hall, wedi dod at ei gilydd er mwyn trafod eu cariad a gwerthfawrogiad cyffredin o’r Beatles. Mae hyn yn cynnwys archif brin yng nghasgliad Bob Harris o gyfweliadau gyda Lennon a McCartney.

Erbyn 1963, roedd Paul a John wedi ysgrifennu cynifer o ganeuon, doedd dim modd eu cynnwys nhw i gyd ar recordiau’r Beatles. Fe wnaethon nhw, oherwydd rhesymau artistig ac ariannol, eu cynnig i artistiaid Merseybeat eraill ar gyfer eu recordio gan gynnwys Cilla Black, Billy J. Kramer a Tommy Quickly.

Dyma’r straeon tu ôl i’r caneuon hynny, y caneuon poblogaidd, y caneuon amhoblogaidd a’r caneuon nad yw’r grŵp erioed wedi eu rhyddhau… yn gryno, y caneuon y gwnaeth y Beatles eu rhoi i eraill.

Mae Bob Harris, OBE, wedi bod wrth wraidd sîn gerddoriaeth y DU am tua hanner canrif. Mae ef wedi sefydlu enw da ledled y byd fel un o ddarlledwyr mwyaf dibynadwy a dylanwadol ei genhedlaeth – sy’n cael ei ddisgrifio gan Radio Times fel “...one of the greats of British contemporary music broadcasting” a gan The Mail on Sunday fel “a national treasure”.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Colin Hall wedi bod yn geidwad yng nghartref plentyndod John Lennon ‘Mendips’ (gan arwain pobl fel Bob Dylan, Yoko Ono a James Taylor o amgylch y tŷ), mae ef wedi ysgrifennu dau lyfr ar y Pedwar Poblogaidd ('The Fab Four’) ac wedi cyflwyno rhaglen ddogfen BBC Radio 4 gydag Alexei Sayle o’r enw ‘The Lennon Visitors’. Roedd Colin yn anhygoel yn y gynulleidfa yn Ffair y Pentref ble cafodd John ei gyflwyno gyntaf i Paul…!

Mae’r ddau ffrind wedi gweithio ar sawl prosiect gyda’i gilydd sy’n cynnwys y ffilm Pre:Fab (sy’n canolbwyntio ar ddiwrnodau cynnar y band fel The Quarrymen), cynhyrchiad WBBC o’r enw ‘Songs The Beatles Gave Away’, a ‘The Day John met Paul’ a enillodd wobr Sony yn 2007.


“Colin is perhaps the world’s greatest Beatle authority.” Bob Harris

“Bob Harris is a straight-up legend.” Chris Martin, Coldplay

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.