Gwybodaeth am Hygyrchedd

HYNT
Rydyn ni bellach yn rhan o gynllun cerdyn aelodaeth o'r enw Hynt. Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i docyn am ddim i'w cynorthwyydd personol neu gynhaliwr yn y ddau leoliad.
Ewch i hynt.co.uk am ragor o wybodaeth ac i ymuno â'r cynllun.
Dylech chi archebu tocynnau ymlaen llaw a rhoi gwybod i staff am unrhyw ofynion penodol sydd gennych chi wrth archebu tocyn. Rydyn ni'n barod iawn i'ch helpu chi a rhoi cyngor.
Os bydd gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau, neu pe hoffech chi ragor o wybodaeth neu ddweud wrth staff y ganolfan am eich anghenion, mae croeso i chi ein ffonio ni.
THEATR Y COLISËWM
- Mae mynedfa ar ffurf ramp i'r cyntedd ar flaen yr adeilad, ac mae'r drysau blaen yn awtomatig
- Mae mynedfa ar ffurf ramp o'r maes parcio i flaen yr adeilad neu'r fynedfa ar ochr yr adeilad
- Mae 3 man parcio ar gyfer pobl anabl
- Mae lifft o seddi'r llawr i'r bar
- Mae toiledau sy'n addas i gadeiriau olwyn
- Mae 5 man lle gall defnyddwyr cadeiriau olwyn eistedd yn ardal seddi'r llawr. Caiff cyfeillion gynnig seddi am ddim wrth ymyl y mannau yma. Dylech drafod hyn â staff y Swyddfa Docynnau wrth archebu eich tocynnau.
- Mae croeso i gŵn cymorth ym mhob rhan o'r adeilad ond mae nifer y seddi yn gyfyngedig
- Mae modd defnyddio dolen sain yn ardal seddi'r llawr yn y neuadd
THEATR Y PARC A'R DÂR
- Mae mynedfa fflat o faes parcio'r llyfrgell sydd gyferbyn â'r lleoliad i'r brif fynedfa. Dylech gyrredd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod mannau parcio ar gael.
- Mae mynediad fflat i'r cyntedd a'r swyddfa docynnau
- Mynediad fflat i'r bar
- Mae lifft i ardal seddi'r llawr
- Mae ardal seddi'r llawr yn fflat
- Mae modd defnyddio dolen sain yn ardal seddi'r llawr yn y brif neuadd. Rhowch eich cymorth clyw yn y safle 'T' er mwyn defnyddio'r cyfleuster yma
- Mae toiledau sy'n addas i gadeiriau olwyn i ddynion a merched ar gael ar y llawr gwaelod
- Mae croeso i gŵn cymorth ym mhob rhan o'r adeilad