PREIFATRWYDD
Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr. Mae’ch hawl chi i breifatrwydd yn bwysig iawn inni. Pan fyddwch chi’n dewis rhoi gwybodaeth amdanoch chi’ch hun inni, rydych chi’n ymddiried y byddwn ni’n gweithredu mewn ffordd gyfrifol, ac rydyn ni’n cydnabod hynny.
Sut rydyn ni'n Diogelu a Pharchu Data
Mae cyfraith diogelu data yn datgan bod modd i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol pan fo gyda ni sail briodol a chyfreithlon. Pan fyddwch chi'n archebu tocynnau ar gyfer Theatr y Colisëwm/Theatr y Parc a'r Dâr, rydych chi'n rhoi rhywfaint o wybodaeth bersonol i ni er mwyn i ni brosesu eich archeb.
Ein sail gyfreithiol ni ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion tocynnau yw:
CONTRACT: Rydyn ni'n cadw'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhoi i ni er mwyn prosesu eich archeb fel bod modd i ni (a) brosesu a chofnodi'ch taliad a (b) rhoi gwybod i chi os oes unrhyw beth yn newid ynghylch eich archeb – er enghraifft, os yw'r perfformiad yn cael ei ganslo. Dim ond er mwyn prosesu'ch taliad y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth yma â'ch banc, neu ag unrhyw un arall os oes gofyn gwneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pan fyddwch chi'n archebu, byddwn ni hefyd yn gofyn a ydych chi am dderbyn gwybodaeth am gynyrchiadau ac achlysuron sydd ar fin dod i Theatr y Colisëwm/Theatr y Parc a'r Dâr. Ein sail gyfreithiol ni ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion marchnata yw:
CANIATÂD: Os byddwch chi'n rhoi eich caniatâd, yna byddwn ni'n cysylltu â chi gyda'r wybodaeth yma bob hyn a hyn. Fyddwn ni ddim yn rhannu eich manylion gydag unrhyw un y tu hwnt i Theatr y Colisëwm/Theatr y Parc a'r Dâr at ddibenion marchnata, a fyddwn ni ddim yn trosglwyddo'ch gwybodaeth i drydydd parti ac eithrio i hwyluso’r hyn rydyn ni'n postio atoch chi.
Mae modd i chi dynnu'ch caniatâd yn ôl unrhyw adeg. Fydd hyn ddim yn effeithio ar y gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn. Byddwn ni'n cynnig y cyfle i chi beidio â derbyn unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol pob tro rydyn ni'n cysylltu â chi, naill ai trwy e-bost neu drwy ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd yma
Os bydd y polisi preifatrwydd yma'n newid mewn unrhyw ffordd, byddwn ni'n rhoi'r fersiwn diweddaraf ar y dudalen yma. Drwy adolygu'r dudalen yma'n rheolaidd, byddwch chi'n gwybod, bob tro, am yr wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu, sut byddwn ni'n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni'n ei rhannu gyda phartïon eraill.
I ddysgu rhagor am sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth, mae modd i chi ddarllen ein tudalen hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth ynghyd â thudalennau diogelu data Cyngor Rhondda Cynon Taf.