O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Y Colisëwm

Theatr y Colisëwm
Stryd Bryn Hyfryd
Trecynon
Aberdâr
CF44 8NG

Wedi'i nythu ar stryd breswyl yn Aberdâr, mae'r adeilad trawiadol hwn yn cynnig rhaglen amrywiol sy'n cynnwys comedi, cerddoriaeth, drama, adloniant ac achlysuron i'r teulu. Mae ffilmiau'r sinema ddigidol hefyd yn rhan hanfodol o'r rhaglen.


SUT I DDOD O HYD I THEATR Y COLISËWM, ABERDÂR

Mae arwyddion theatr brown yn dangos y ffordd i'r theatr yn Aberdâr.

Dilynwch yr A470 (cyffordd 32 gyda'r M4). Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Aberdâr A4059, ac yna Hirwaun A4059. Yng nghylchfan Tesco, Aberdâr, dilynwch yr allanfa gyntaf a'r arwyddion ar gyfer Trecynon B4275 (Gadlys Road). Yn y brif groesfan goleuadau traffig (ger mynedfa'r parc), ewch syth ymlaen a throwch i'r dde yn y troad cyntaf sy'n arwain at Broniestyn Terrace. Bydd y troad nesaf i'r chwith (Park Grove) yn eich arwain chi at faes parcio am ddim Theatr y Colisëwm.


PARCIO

Mae gan Theatr y Colisëwm faes parcio am ddim wrth ymyl y ganolfan.



ORIAU AGOR THEATR Y COLISËWM

Mawrth: 11.00am -2.00pm

Wyneb yn Wyneb: Yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau sydd wedi'u rhestru uchod

Dros y Ffôn ar 03000 040 444 dydd Mawrth-dydd Gwener 2.00pm-5.00pm.

CYNLLUNIAU SEDDI

Mae gan Theatr y Colisëwm awditoriwm â 588 o seddi ar ogwydd yn dechrau yn rhes K yn y seddi gwaelod ac yn symud i fyny i ffwrdd o'r llwyfan. Mae yna olygfa arbennig o bob sedd yn y Theatr.

Coliseum Seating Plan July 2023 Final
Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.