O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Gwybodaeth

RYDYN NI BELLACH YN CYNNIG TOCYNNAU DIGIDOL

Byddwch chi’n derbyn cadarnhad drwy e-bost sy’n cynnwys dolen at eich tocynnau yn eich cyfrif ar-lein. Mae modd i chi eu lawrlwytho a'u cadw nhw ar eich ffôn, neu efallai byddwch chi'n dewis eu hargraffu gartref.

Pan fyddwch chi’n cyrraedd y theatr, dangoswch y tocynnau rydych chi wedi'u lawrlwytho ar eich ffôn clyfar neu dangoswch y cod QR ar y tocynnau sydd wedi'u hargraffu.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n gallu defnyddio ffôn clyfar i lawrlwytho eich tocynnau, nac yn gallu argraffu eich tocynnau gartref. Mae modd ichi gael tocynnau papur o'r Swyddfa Docynnau.

Os ydych chi wedi colli eich e-docynnau neu'r rhai wedi'u hargraffu, e-bostiwch theatrau@rctcbc.gov.uk er mwyn inni eich helpu chi.


CADW LLE AR GYFER ACHLYSURON BYW

Ar gael i grwpiau sydd â 20 o aelodau neu fwy yn unig. Rhaid talu am bob tocyn arall pan fyddwch chi'n ei archebu.


CASGLU TOCYNNAU

Mae modd i ni anfon eich tocynnau i chi (rhaid talu 70c i'w postio) neu gallwch chi eu casglu o'r Swyddfa Docynnau


TOCYNNAU AM BRIS GOSTYNGOL

Ar gael i fyfyrwyr llawn amser (gyda cherdyn adnabod), pobl 60 oed a
throsodd, pobl anabl a phobl ddi-waith (gyda dull adnabod priodol).
Efallai na fydd modd eu cael ar achlysuron pan fydd y theatr wedi'i
llogi


CWSMERIAID ANABL A CHYNHALWYR

Rydyn ni'n aelod o Hynt - cynllun mynediad cenedlaethol sy'n gweithio gyda rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru. Mae gan bawb sydd â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim i'w cyfaill, cynhaliwr neu gynorthwy-ydd personol. I gael rhagor o wybodaeth am Hynt ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i wefan Hynt www.hynt.co.uk/cy

I gael rhagor o fanylion am archebu tocynnau Hynt, sut i gadw lle ar gyfer Cadair Olwyn, y Cyfleusterau Mynediad ym mhob lleoliad a Pherfformiadau â Chymorth cliciwch yma


ARCHEBU TOCYNNAU GRŴP

Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i grwpiau


ARCHEBU TOCYNNAU I YSGOLION

Mae modd i ysgolion gael gostyngiad arbennig ar gyfer rhai achlysuron. Mae hyn yn cynnwys tocynnau am ddim i athrawon/darlithwyr/cynorthwywyr addysg (1 i bob 10 plentyn, os na fyddwch chi'n gwneud trefniant arall gyda'r ganolfan). Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 am ragor o wybodaeth.

TALU AM DOCYNNAU


CARDIAU CREDYD/DEBYD

Rydyn ni'm croesawu taliadau drwy gerdyn credyd/debyd. Fydd dim tâl am ddefnyddio ceryn o dydd Llun 1 Ionawr 2018.


SIECIAU AC ARCHEBION POST

Tynnwch sieciau ac archebion post yn enw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.


ARIAN PAROD

Wyneb yn wyneb yn y swyddfa docynnau - peidiwch ag anfon arian parod yn y post


TOCYNNAU THEATR

Rydyn ni'n derbyn tocynnau theatr - ffoniwch y Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth.

CYFNEWID TOCYNNAU

(ar gyfer achlysuron Theatrau Rhondda Cynon Taf yn unig)

Mae modd i chi gyfnewid eich tocyn am achlysur arall neu gael taleb gredyd (rhaidd i'r naill ddewis neu'r llall fod yn gyfwerth â phris eich tocyn gwreiddiol). Mae modd gwneud hyn hyd at 24 awr cyn i'r perfformiad ddechrau.


AD-DALIADAU

(ar gyfer achlysuron Theatrau Rhondda Cynon Taf yn unig)

Does dim modd i chi gael ad-daliad am unrhyw achlysur oni bai ei fod wedi'i ganslo neu ei ohirio.

Sut rydyn ni'n Diogelu a Pharchu Data

Pan fyddwch chi'n archebu tocynnau yn Y Colisëwm Theatr/ Y Parc a’r Dâr, byddwch yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bersonol sylfaenol i ni er mwyn i ni brosesu eich archeb.

Pan fyddwch yn archebu, byddwn yn gofyn i chi hefyd a ydych am dderbyn gwybodaeth am gynyrchiadau a digwyddiadau sydd i ddod yn Y Colisëwm Theatr/ Y Parc a’r Dâr. Os byddwch yn rhoi eich caniatâd, yna byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth hon o dro i dro. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un y tu hwnt i'r Y Colisëwm Theatr/ Y Parc a’r Dâr at ddibenion marchnata, ac ni fyddwn yn trosglwyddo'ch gwybodaeth i drydydd parti ac eithrio i hwyluso'r broses o anfon gwybodaeth atoch chi.

Byddwn yn cynnig y cyfle i chi beidio â derbyn unrhyw wybodaeth yn y dyfodol bob tro y byddwn yn cysylltu â chi, naill ai trwy e-bost neu drwy gysylltu â'n Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.