Y Parc a'r Dâr
Theatr y Parc a'r Dâr
Stryd yr Orsaf
Treorci
CF42 6NL
Mae'r adeilad nodedig hwn yn sefyll uwchlaw gorwel Treorci. Mae ei raglen o achlysuron yn cynnwys cerddoriaeth, comedi, drama ac achlysuron cymunedol. Mae ffilmiau'r sinema ddigidol hefyd yn rhan hanfodol o'r rhaglen.
Stiwdio 1
Mae Stiwdio 1 yn Theatr y Parc a'r Dâr yn fan clyd sy'n berffaith i ddod ynghyd ar gyfer cynyrchiadau ar raddfa fach gan gynnwys drama, comedi a cherddoriaeth fyw.
Mae wedi'i lleoli ar y llawr isaf ac mae'n gwbl hygyrch i gynulleidfaoedd a pherfformwyr sydd ag anableddau. Mae modd defnyddio'r man hyblyg yma mewn sawl ffordd wahanol – dull cabaret, cynllun seddi theatr sy’n cynnwys y gynulleidfa neu theatr draddodiadol, gan ddibynnu ar y math o achlysur.
Pan nad yw Stiwdio 1 yn cael ei defnyddio ar gyfer perfformiadau, mae'n cael ei defnyddio'n ardal bar ar gyfer achlysuron yn y prif awditoriwm.
Sut i Ddod o Hyd i Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci
O'r dwyrain gan ddefnyddio'r M4:
Gadewch yr M4 yng nghyffordd 32 a dilynwch yr A470 i Bontypridd. Wedyn, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Cwm Rhondda. (Nodwch: Ar ôl gadael y Porth, dilynwch yr allanfa gyntaf (i'r chwith) yn y gylchfan fach wrth dafarn yr Apollo).
O'r gorllewin gan ddefnyddio'r M4:
Gadewch yr M4 yng nghyffordd 34, dilynwch yr A4119 a'r arwyddion ar gyfer Cwm Rhondda a Treorci ar yr A4058.
Unwaith i chi gyrraedd Treorci, trowch i'r chwith wrth y gyffordd sydd â goleuadau traffig ger tafarn The Stag. Dilynwch yr A4061 ar gyfer Cwm-parc (Station Road) ac mae'r theatr ar y dde, yn syth ar ôl y bont. Dilynwch y troad nesaf i'r chwith sy'n arwain at Dyfodwg Street ac yna trowch i'r chwith er mwyn mynd i'r maes parcio am ddim y tu ôl i Lyfrgell Treorci.
PARCIO
Mae lleoedd parcio am ddim ar gael ym maes parcio Llyfrgell Treorci o flaen Theatr y Parc a'r Dâr
ORIAU AGOR THEATR Y PARC A'R DAR
Mawrth-Gwener 2.00pm - 5.00pm
Wyneb yn Wyneb: Yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau sydd wedi'u rhestru uchod
Dros y Ffôn ar 03000 040 444 dydd Mawrth-dydd Gwener 11.00am - 5.00pm.
CYNLLUNIAU SEDDI
Mae gan Theatr y Parc a'r Dâr awditoriwm â 660 o seddi ar ogwydd yn dechrau yn rhes P yn y seddi gwaelod ac yn symud i fyny i ffwrdd o'r llwyfan. Mae yna ambell i golofn yn yr awditoriwm, ond mae'r rhain yn cael eu marcio'n glir ar y cynllun seddi.
