Gwybodaeth Gyffredinol
BAR
Mae bar cyhoeddus yn y ddwy ganolfan ac mae modd archebu diodydd ymlaen llaw ar gyfer yr egwyl. Mae te a choffi ar gael hefyd. Mae'r bar ym mhob canolfan yn agor awr cyn y perfformiad gyda'r nos ac yn cau am 1.00am ar yr hwyraf oni bai ein bod ni'n dweud fel arall.
BYRBRYDAU
Mae'r ddwy ganolfan yn gwerthu amrywiaeth o ddiodydd meddal, byrbrydau a phopgorn cyn y perfformiad ac yn ystod yr egwyl.
YSMYGU AC E-SIGARÉTS
Dydyn ni ddim yn caniatáu i chi ysmygu na defnyddio e-sigaréts yn unrhyw un o'r canolfannau.
CYFYNGIADAU OEDRAN
Yn y neuaddau - Bydd y cyfyngiad oedran ar gyfer unrhyw achlysur sydd â chyfyngiad oedran oherwydd natur y cynnwys yn cael ei hysbysebu yn gyhoeddus. Os byddwch chi'n ansicr am unrhyw achlysur a'i gyfyngiad oedran, cysylltwch â'r ganolfan.
LLOGI'R CANOLFANNAU
Mae gan bob canolfan neuadd fawreddog a nifer o ystafelloedd cyfarfod a mannau hyblyg sydd ar gael i'w llogi am brisiau cystadleuol iawn, yn unol â pholisi rhaglennu'r ganolfan. Ffoniwch eich canolfan o ddewis am ragor o fanylion.
RECORDIO A CHAMERÂU
Peidiwch â defnyddio camerâu na chyfarpar recordio yn ystod unrhyw berfformiad.
FFÔNAU SYMUDOL
Diffoddwch bob ffôn symudol neu beiriant galw yn ystod unrhyw berfformiad.
POBL SY'N CYRRAEDD YN HWYR
Fyddwn ni'n gadael pobl sy'n cyrraedd yn hwyr i mewn i'r neuadd neu fan perfformio yn ystod egwyl briodol. Bydd hyn yn digwydd yn ôl disgresiwn y rheolwr sydd ar ddyletswydd.
MYNEDIAD I'R GANOLFAN
Bydd mynediad i'r ganolfan yn digwydd yn ôl disgresiwn y staff ac mae gennym ni'r hawl i wrthod mynediad.
FFOTOGRAFFIAETH A FFILMIO
Dyma roi gwybod ei bod hi'n bosibl y byddwn ni'n tynnu lluniau ac yn ffilmio mewn achlysuron. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'r deunydd yma, darllenwch ein 'Hysbysiad Preifatrwydd Ffotograffiaeth a Fideograffeg' ar ein gwefan www.rctcbc.gov.uk/hysbysiadpre... a thudalennau diogelu data'r Cyngor yn www.rctcbc.gov.uk/diogeludata.
BABANOD A PHLANT BACH
Er mwyn cydymffurfio â gofynion trwyddedu ac iechyd a diogelwch, rhaid i bob aelod o'r gynulleidfa, gan gynnwys babanod a phlant, feddu ar docyn dilys. Does dim tâl am y tocyn yma ar gyfer plant sydd o dan 2 oed. RHAID i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn sy'n derbyn cyfrifoldeb iawn am y plant sydd dan ei ofal bob amser.
Mae cyfleusterau newid cewynnau ym mhob canolfan.
Does dim modd mynd â phramiau na seddi car i mewn i'r neuadd
CLUSTOGAU HYBU YN THEATR Y COLISËWM
Rydyn ni'n gwybod bod rhai blant ifainc yn ei chael hi'n anodd gweld y llwyfan, felly mae gyda ni nifer hyn a hyn o glustogau hybu plastig am ddim. Y cyntaf i'r felin fydd hi. Gofynnwch i aelod o staff os ydych chi angen clustog hybu ar gyfer eich plentyn.