Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Yr Olwg

Yr Olwg

Heol Sant Illtyd

Pentre'r Eglwys

Pontypridd

CF38 1RQ

Mae Stiwdio Yr Olwg yn ofod agos-atoch sy'n berffaith i ddod ynghyd ar gyfer cynyrchiadau ar raddfa fach gan gynnwys drama, comedi, cerddoriaeth fyw ac achlysuron cymunedol.

Mae wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod ac mae'n gwbl hygyrch i gynulleidfaoedd a pherfformwyr sydd ag anableddau. Mae modd defnyddio’r gofod hyblyg yma mewn sawl ffordd wahanol – dull cabaret, cynllun seddi theatr sy’n cynnwys y gynulleidfa neu theatr draddodiadol, gan ddibynnu ar y math o achlysur.


SUT I DDOD O HYD I'R OLWG

Gadewch yr A470 yn Nhrefforest, dilynwch yr A473 i Bentre’r Eglwys, ewch yn syth drwy’r goleuadau traffig ym Mhentre’r Eglwys, a bydd Yr Olwg ar y chwith.


MAES PARCIO

Mae maes parcio am ddim ar gael yn uniongyrchol o flaen yr adeilad.



ORIAU AGOR YR OLWG

Dydd Llun - Dydd Gwener, 10.00am – 4.00pm

Ar gyfer ymholiadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.