Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi
Monologue Mania
Y Parc a'r Dâr
Adrodd Stori

Monologue Mania

International Women's Day
  • Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025 Sad 8 Maw 2025 8 Maw 25 7:00yh
  • Pay What You Feel* - £8/£5/£3/£0
Still Here
Y Parc a'r Dâr
Drama

Still Here

Yn Stiwdio 1
  • Dydd Gwener 14 Mawrth 2025 Gwen 14 Maw 2025 14 Maw 25 7:30yh
  • Tocynnau - £11.00
The Beginning Beat
Y Colisëwm
Achlysur i'r Gymuned

The Beginning Beat

Cyflwynir gan Elevé Academy of Dance
  • Dydd Gwener 14 Mawrth 2025 Gwen 14 Maw 2025 14 Maw 25 4:00yh
  • Dydd Sadwrn 15 Mawrth 2025 Sad 15 Maw 2025 15 Maw 25 4:00yh
  • Tocynnau - £12.00
  • Gostyngiadau - £11.00
Parc a Dewrder  – Noson Sbrigiau
Y Parc a'r Dâr

Parc a Dewrder – Noson Sbrigiau

Yn Stiwdio 1
  • Dydd Mercher 19 Mawrth 2025 Mer 19 Maw 2025 19 Maw 25 7:00yh BSL
  • Talwch Be Sy'n Eich Taro* - £8/£5/£3/£0
Parc a Dewrder – Potyn Pobi
Y Parc a'r Dâr

Parc a Dewrder – Potyn Pobi

  • Dydd Iau 20 Mawrth 2025 Iau 20 Maw 2025 20 Maw 25 7:00yh BSL
  • Talwch Be Sy'n Eich Taro* - £8/£5/£3/£0
Parc a Dewrder – Artist mewn Gwasanaeth
Y Parc a'r Dâr

Parc a Dewrder – Artist mewn Gwasanaeth

  • Dydd Gwener 21 Mawrth 2025 Gwen 21 Maw 2025 21 Maw 25 7:00yh BSL
  • Talwch Be Sy'n Eich Taro* - £8 /£5 /£3 / £0
Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.