CYMRYD RHAN YM MHANTO HUDOL THEATRAU RHCT – Cinderella

Wyt ti rhwng 9 a 19 oed? Wyt ti erioed wedi bod eisiau perfformio'n fyw ar y llwyfan? Dyma dy gyfle, mae Criw Panto Take pART Theatrau RhCT yn chwilio am bobl ifainc, egnïol ac angerddol i ymuno â’r cast, fel dawnswyr, ym mhantomeim hudolus eleni, Cinderella.
Bydd y perfformiad gwefreiddiol yma'n cael ei gynnal yn Theatr y Colisëwm Aberdâr a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, o ddydd Iau 30 Tachwedd tan ddydd Sul 24 Rhagfyr 2022.
Bydd clyweliadau i ymuno â Chriw Panto Take pART fel dawnsiwr ac aelodau o'r corws ar gyfer y cynhyrchiad yn cael eu cynnal ar y dyddiad canlynol:
Dydd Sul 17 Medi, Canolfan Gymunedol Trallwn, 1 Stryd Ralph, Pontypridd, CF37 4RS
2.00pm – 4.00pm i rai 9 – 19 oed.
Rhaid i ti fod rhwng 9 a 19 oed a bod ar gael ar gyfer dyddiadau'r perfformiadau i fod yn gymwys i gael clyweliad. Yn y clyweliadau bydd gofyn i ti gymryd rhan mewn gweithdy grŵp - cofia wisgo dillad cyfforddus a naill ai esgidiau jazz neu trainers.
Am ragor o wybodaeth am y broses clyweliad ac i gadarnhau dy le, ffonia Bridie Smith ar 07711848404 neu anfona e-bost at takepartpantocrew@gmail.com