O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

4 Sioe Newydd Ar Werth.

8 Rhagfyr 2016

Dechreuwch 2017 gyda'r sioeau newydd sbon yma!

Brad a Curtis Rempel yw'r ddeuawd canu gwlad o Ganada. Maen nhw wedi bod yn berfformiadau ategol i enwogion fel The Shires, Keith Urban, LeAnn Rimes a Reba McEntire. Ond, maen nhw hefyd wedi ennill enw da drostyn nhw eu hunain hefyd.  Byddan nhw'n perfformio yn Theatr y Colisëwm dydd Gwener 10 Chwefror.

HighValley_NEW.jpg#asset:658

 

Rob Beckett - the Mouth of The South. Un o ser Live At The Apollo, Would I Lie To You?, 8 Out Of 10 Cats, a Mock The Week. Bydd e'n perfformio yn Theatr y Colisëwm dydd Sul 19 Mawrth.

 

RobBeckkett-RT-hi-res2.jpg#asset:572


Russell Kane - comedïwr, cyflwynydd, actor, awdur a sgriptiwr - yn enwog am gyflwyno'r rhaglen Live At The Electric ac am ymddangos ar Live At Apollo a Celebrity Juice. Mae ei sioe newydd 'Right Man Wrong Age' yn Theatr y Parc a'r Dâr dydd Sadwrn 22 Ebrill.

Russell-Kane-jpg1.jpg#asset:679



 

Wishbone Ash - Ar ôl dros 45 o flynyddoedd ac ar ôl gwerthu miliynau o albymau, maen nhw'n parhau i berfformio eu sŵn gitâr ddeuol eiconig i gynulleidfaoedd ledled y byd. Gallwch eu gweld yn Theatr y Colisëwm dydd Gwener 20 Hydref.

Wishbone-Ash-Andy-Guitar1.jpg#asset:693

Archebwch docynnau ar-lein drwy'r dolenni uchod neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau, 08000 147 111.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.