Wynford Jones & Geoff Cripps
Yn Stiwdio 1
Perfformiadau
- Dydd Iau 2 Hydref 2025 Iau 2 Hyd 2025 2 Hyd 25 7:30yh
Mae presenoldeb mawr Wynford Jones a Geoff Cripps ym myd cerddoriaeth werin dros bedair degawd wedi bod yn anhygoel.
Gyda'r ddau yn aelodau sefydlol o arloeswyr band roc gwerin boblogaidd yr 80au, The Chartists, mae Wynford a Geoff yn dau eu gafael ar eu holl egni a'u hasbri.
Mae caneuon Wynford yn cyfleu profiad radical dosbarth gweithiol Cymru... a'r atgofion ingol o fagwraeth yn y Cymoedd. Mae dawn sensitif Geoff, yr aml-offerynnwr sy'n ymgyrchydd gweledigaethol ar gyfer cerddoriaeth werin, yn ategu negeseuon y geiriau. Mae ei waith ar y sin gelfyddydol wedi meithrin cenedlaethau newydd o berfformwyr.
Mae sioe lwyfan gyfredol y ddeuawd wedi cael bywyd newydd yn dilyn rhyddhau campwaith digidol nad oedd ar gael am gyfnod hir, sef Cause For Complaint. Syfrdanodd yr albwm Martyn Joseph, sef cyfansoddwr modern mwyaf blaenllaw Cymru.
"Alla i ddim cofio adeg yn fy mywyd pan oedd angen mwy o alw am protest na heddiw, mae angen ysbryd y caneuon yma arnon ni... i atgoffa ein hunain o bwy ydyn ni go iawn."