Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Wishbone Ash

UK Tour 2025

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 18 Hydref 2025 Celfyddydau: Cerddoriaeth
Wishbone Ash

Perfformiadau

  • Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025 Sad 18 Hyd 2025 18 Hyd 25 7:30yh

Dewch yn llu i fwynhau cerddoriaeth y band poblogaidd yma. Mae sain y band wedi ysbrydoli eraill fel Thin Lizzy, Judas Priest ac Iron Maiden. Byddan nhw'n perfformio set wefreiddiol sy'n cynnwys rhai o'u caneuon mwyaf poblogaidd o yrfa sydd wedi para 55 o flynyddoedd!

Peidiwch â cholli’r cyfle yma!