Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Welsh Legends of Comedy & Music

Owen Money MBE, Colin Price, Oscar & The Kingfishers

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 4 Hydref 2025 Celfyddydau: Cerddoriaeth
Welsh Legends of Comedy & Music

Perfformiadau

  • Dydd Sadwrn 4 Hydref 2025 Sad 4 Hyd 2025 4 Hyd 25 7:30yh

Dyma sioe sy'n cynnwys tri o enwogion byd adloniant Cymru.

Bydd y cerddor digymar OWEN MONEY MBE yn serennu ar y llwyfan gyda'i bersonoliaeth a'i swyn. Mae nifer yn ei adnabod am ei sioeau radio poblogaidd iawn ar y BBC – Money for Nothing ac Owen Money's Solid Gold Sundays.

Mae COLIN PRICE wedi bod ar y sîn ers blynyddoedd lawer.  Ymddangosodd ar sioe boblogaidd iawn o'r enw COMEDIANS gan gwmni Granada Television. Yn ddiweddar mae Colin wedi bod yn ymddangos gydag enwogion y byd chwaraeon i siarad mewn ciniawau. Bu hefyd yn perfformio cyn Max Boyce ar lawer o'i deithiau.

Rydyn ni'n falch iawn o gyflwyno eiconau byd cerddoriaeth Cymru, y grŵp adnabyddus OSCAR AND THE KINGFISHERS. Roedden nhw'n arfer perfformio o dan yr enw The Arwyn Jones Band cyn i'r 'Kingfishers' roi'r llysenw Oscar i Arwyn.. Mae Oscar yn dad i Kelly Jones (o Stereophonics) ac yn y blynyddoedd cynnar treuliodd Kelly lawer o'i ieuenctid yn y clybiau'n gwylio ei dad yn perfformio. Roedd Oscar yn ddylanwad mawr ar flynyddoedd cynnar gyrfa ei fab a gafodd lwyddiant byd-eang wedyn gyda'r grŵp Stereophonics.

Oed 18+

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.