Mae'r achlysur yma wedi'i ganslo. Os ydych chi wedi prynu tocynnau, bydd ein Swyddfa Docynnau yn cysylltu â chi i drefnu ad-daliad llawn
Seddau yn null Cabaret yn y bar oriel.
Addas i bobl â Dementia.
Dewch am dro yn ôl mewn amser i gyfnod o ramant, hwyl ac ysbryd cymunedol wrth i'r Siren Sisters ddod â chymeriadau a digwyddiadau'r Ail Ryfel Byd yn fyw – o ferched tir a diddanu milwyr, i bartïon stryd a dathliadau Diwrnod VE.
Byddwch chi'n sicr o weld gwefusau coch retro, hosanau sidan, harmonïau peraidd – a dewis da o laeth a mêl – ac amrywiaeth o bastai blasus a disgled hefyd.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.