Tom Allen : Completely

Perfformiadau
- Dydd Iau 23 Chwefror 2023 8:00pm
Mae Tom Allen wedi symud mas o dŷ ei rieni o'r diwedd, sydd wedi bod yn newyddion da iddo fe, newyddion gwell i siopau adrannol a newyddion gwell fyth ar gyfer ei daith stand-yp ddiweddaraf gan ei fod e'n awyddus i rannu'r hyn sydd wedi digwydd yn ei fywyd yn ddiweddar, gofyn eich barn ar ei wely llysiau a thrafod y protocol o ran gwahodd ffrindiau â phlant i ginio.
Enw cyfarwydd diolch i’w ffraethineb brathog nodweddiadol a’i ddull croch o adrodd stori, mae Tom yn cyflwyno The Apprentice: You're Fired ac yn cyd-gyflwyno Cooking With The Stars a Like Minded Friends, ac mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar Bake Off: An Extra Slice a There's Something About Movies.
Gwerthodd taith ddiwethaf Tom dros hanner can mil o docynnau, gan gynnwys ei sioe a werthodd bob tocyn yn The London Palladium lle recordiodd ei sioe arbennig.
“Sharp badinage, sympathetic personal material and – not least – his abundant skills as a raconteur and host.” The Guardian
“a riotous rollercoaster of a set from a skilful stand-up perched on the cusp of major fame" The Evening Standard
“A neatly judged mix of realism and ripe exaggeration delivered at a frantically camp pace." The Times