O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Tic Toc

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Sioeau Cerdd, Ddwyieithog
Tic Toc

Mae Tic Toc yn stori gerddorol am grŵp o ffrindiau agos oedd yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffatri. Bu’r criw yn canu, chwerthin a dawnsio gyda’i gilydd, yn profi cryfder eu cyfeillgarwch gyda bod y byd o’u cwmpas yn newid. Yna ddo’th rhwyg i amharu ar eu cyfeillgarwch. A nawr mae aduniad wedi’i drefnu.... ond mae un ohonynt heb dderbyn gwahoddiad!

Mae Tic Toc yn talu teyrneged i fenywod y ffatri mewn sioe sydd wedi’i seilio ar eu straeon a’u hatgofion. Ymunwch â nhw i ail-fyw’r gorffennol wrth iddynt ddod at ei gilydd i ail-greu’r amseroedd da a’u ieuenctid!

DS: Mae Tic Toc yn sioe ddwyieithog


Gyda


Gillian Elisa: Billy Eliot West End, Alys S4C, 35 Diwrnod S4C, Stella Sky TV, Sherlock BBC, Gavin & Stacey BBC, A Mind to Kill S4C / Channel 5

Lowri-Ann Richards: New Romantic cantor, alter ego LaLa Shockette, seren cabaret a sioeau un fenyw , Pobl y Cwm BBC Cymru

Clare Hingott: Tourist Trap BBC Cymru,Stella Sky TV, The Indian Doctor BBC Cymru, 2 Dŷ a Ni S4C

Olwen Rees: Stella Sky TV, 35 Diwrnod S4C, The Lifeboat BBC, Jack of Hearts BBC,The Life & Times of Lloyd George BBC, Poems & Pints BBC Cymru

Mary-Anne Roberts: gwaith theatrig arbrofol, Chapter, Member of folk band /aelod o fand gwerin Bragod

Carys Gwilym: Rybish S4C, Nyrsys Theatr Genedlaethol, Bankrupt Bride Theatr na nÓg

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.