Bydd yr hen rebeliaid rock a rôl, The Quireboys, yn dychwelyd i gael parti mawr fel rhan o'u sioe deithiol 'White Trash Blues' yn 2018. Does dim amser i laesu dwylo yng nghwmni Spike a'i griw. Ydy, mae’r bois yn ôl fis Ionawr. Mae yna gyffro mawr ymhlith y Quireboys, wrth i'r bois roc a rôl profiadol baratoi am eu halbwm mwyaf uchelgeisiol hyd heddiw! Bydd yr albwm White Trash Blues yn cynnig hen ganeuon 'the blues" gyda thro gwahanol.
Mae'n llawn goreuon y genre. Mae Muddy Waters, John Lee Hooker, Chuck Berry a Billy Boy Arnold yn cael gweddnewid unigryw gan y Quireboys. Nid yw Spike erioed wedi swnio mor wreiddiol, a'r band erioed mor hyderus.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.