O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

The Three Musketeers

All for One and fun for all!

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 16 - 17 Hydref 2024 Celfyddydau: Comedi Drama
The Three Musketeers

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 16 Hydref 2024 Mer 16 Hyd 2024 16 Hyd 24 7:30yh AD BSL
  • Dydd Iau 17 Hydref 2024 Iau 17 Hyd 2024 17 Hyd 24 1:30yh

Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno

Sioe gomedi newydd sbon wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Richard Tunley

Mae'r tîm a gyflwynodd The Invisible Man a The Adventures of Sherlock Holmes yn ôl gyda fersiwn hwyliog gwych o antur 17eg ganrif Alexandre Dumas.

Dewch ar antur fyrlymus yng nghwmni Black RAT Productions, y cwmni sydd â hwyl yn y gwaed! Bydd cast egnïol o 4 actor yn chwarae aml ran yn y ddrama liwgar newydd yma sydd wedi’i hysbrydoli gan y nofel adnabyddus.

Ymunwch â’n harwyr – D'Artagnan, Athos, Porthos, Aramis – ar antur llawn brwydrau â chleddyfau, doniolwch pwy yw pwy, hwyl a sbri. Fe gewch chi fwynhau hiwmor, egni a chwerthin lond eich bol.

Argymhelliad – Addas ar gyfer pobl 11 oed a hŷn

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru


Perfformiad Disgrifiad Sain ar Dydd Mercher 16 Hydref 7.30pm. Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau os oes angen clustffonnau arnoch chi.

Perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain ar Dydd Mercher 16 Hydref 7.30pm. Cynhelir perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer pobl ag anawsterau clyw sydd â Iaith Arwyddion Prydain fel eu dewis iaith. Bydd cyfieithydd yn sefyll ar un ochr i'r llwyfan ac yn dehongli'r holl berfformiad wrth iddo ddigwydd. ​


Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.