“Os ydych chi'n hoffi cerddoriaeth a gitarau, byddwch chi WRTH EICH BODD ar y sioe yma!”
‘Rockumentary’ syfrdanol ar ffurf cyngerdd fyw sy'n talu teyrnged i rai o arwyr gitâr mwyaf hanes!
Gan ddefnyddio rhai o gerddorion mwyaf dawnus y wlad, a'r dechnoleg ddiweddaraf o ran sgriniau fideo, bydd Phil Walker yn mynd â chi ar daith ar hyd y degawdau am wledd ysbrydoledig o ganeuon mawr arwyr gitâr mwya'r byd fel Eddie Cochran, Hank Marvin, Jimi Hendrix, Eric Clapton, Brian May, Slash a Joe Satriani.
Mae'r profiad theatraidd pwerus hwn yn wledd brin nid yn unig i gyw-arwyr y gitâr - ond i bawb sy'n caru cerddoriaeth.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.