Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

The Shires

Two of Us – Taith Acwstig

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 6 Mehefin 2025 Celfyddydau: Cerddoriaeth
The Shires

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 6 Mehefin 2025 Gwen 6 Meh 2025 6 Meh 25 7:30yh

Ar werth dydd Gwener 13 Rhagfyr 10.00am

Mae deuawd canu gwlad fwyaf y DU, The Shires, wedi cyhoeddi cyfres o sioeau yng Nghymru yn 2025. Bydd taith 'The Two of Us' yn tywys Ben Earle a Crissie Rhodes ar hyd a lled y DU yn perfformio eu holl ganeuon adnabyddus.

Mae The Shires wedi cael llawer o lwyddiant: tri albwm yn olynol yn y 3 uchaf yn y DU, pedwar albwm canu gwlad wedi cyrraedd safle rhif 1 yn siartiau'r DU, dros 100 miliwn o ffrydiau, dwy record aur wedi’u hardystio, a sioeau di-ri wedi’u gwerthu allan, gan gynnwys yn y Royal Albert Hall.

Daeth The Shires yn adnabyddus am y tro cyntaf yn 2014 gyda’u sengl ‘Nashville Grey Skies’, cân chwareus am yr angen i Brydain gael ei sîn wledig ei hun. A nhw oedd sbardun y peth, gyda'u halbwm cyntaf, 'Brave', yn 2015, sef yr albwm canu gwlad cyntaf gan artist o'r DU i gyrraedd y 10 uchaf. Parhaodd y llwyddiant hwnnw gyda chyfres o albymau poblogaidd: My Universe (2016), Accidentally On Purpose (2018), Good Years (2020) a 10 Year Plan (2022).

Daeth y band yn boblogaidd iawn yn Nashville gan arwain at ennill dwy Wobr CMA, uchafbwyntiau teithiol gan gynnwys Gŵyl C2C ac ymddangos fel gwesteion ar raglen Carrie Underwood, Little Big Town, The Corrs a rhagor.


Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.