The Ramshackles Brilliant Adventure

Cynhyrchiad Flossy and Boo a Theatrau RhCT.
Yn dilyn eu sioeau teuluol hynod boblogaidd, Ned and the Whale a The Curiosity Shop, mae Flossy and Boo yn dychwelyd gyda'u ffordd unigryw, hudol a rhyfedd o adrodd storïau.
Pan fyddwn ni'n ifainc, fe ddysgwn ni sawl peth,
ond roedd y Ramshackle yn bobl anaddas, anghyffredin a chymhleth!
Collon nhw'r sgwrs ar sut i ymddwyn,
ar sut i eistedd yn llonydd,
neu sut i yfed yn iawn o gwpan.
Aethon nhw ar anturiaethau i leoedd tu hwnt,
a'u gwallt blêr a'u hwynebau bach brwnt
Taith i'r Aifft,
I'r lleuad am gacen.
Cloddio i gyrraedd Awstralia
Gan ddefnyddio llwy fach bren
Llawn cerddoriaeth ac anrhefn; Ymunwch â theulu'r Ramshackle am gorwynt o antur!
Dyma achlysur rhad ac am ddim i weld camau cychwynnol cynhyrchiad sydd ar y gweill. bydden ni wrth ein bodd i glywed eich syniadau a'ch adborth i'n helpu ni i lunio'r darn newydd o waith yma, a bod yn rhan a'r broses o greu.