Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

English

The Polar Express (U)

Sinema
The Polar Express (U)

Y Colisëwm

Tocynnau - £3.70

Codir ffi bwcio o £2.50 am drafodion ar-lein

Dewch bawb yn llu ar gyfer ein harddangosiad y Nadolig o The Polar Express.

Dewch yn eich pyjamas a'ch gŵn tŷ er mwyn ymuno â ni ar gyfer y ffilm Nadolig boblogaidd yma sy'n dilyn siwrnai anhygoel bachgen ifanc ar drên i Begwn y Gogledd.

Dechreuwch eich dathliadau'r 'Dolig gyda'r ffilm ffantastig yma.


Cofiwch gyrraedd Theatr y Colisëwm o 12pm ymlaen ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr a bydd cyfle i chi gwrdd â thocynnwr trên y Polar Express! 

 Yn ystod y prynhawn arbennig yma o hwyl yr ŵyl, bydd cyfle i blant gwrdd â thocynnwr go iawn a chael eich llun wedi’i dynnu cyn gweld y ffilm! 

Cofiwch ddod â'ch camerâu a rhannu'ch lluniau ar Facebook gan dagio Theatr y Colisëwm Aberdâr, #ThePolarExpress

 

Ydych chi'n dod? 

ident/coliseumCreated with sketchtool.ident/parkdareCreated with sketchtool.

Croeso!

Ble clywsoch chi am Theatrau Rhondda Cynon Taf?

Diolch

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o'n theatrau yn fuan.

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.