Mae Betty McLeish yn weddw gyfoethog iawn... felly does dim rhyfedd ei bod hi wedi dal llygad y twyllwr, Roy Courtnay. Er mwyn cael ei fachau ar yr arian, cynllun syml Roy yw hudo Betty i syrthio mewn cariad gydag e. Fodd bynnag, mae e'n dechrau syrthio amdani hi, ac mae'r hyn feddyliodd fyddai'n scam bach rhwydd yn datblygu'n rhywbeth llawer mwy cymhleth...
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.