The Alternativity

Flossy and Boo: The Alternativity
Mae'n nesáu at y Nadolig, cyfnod hirach bob blwyddyn, A Flossy a Boo'n mynd i 'ysbryd yr ŵyl'. Gan daflu'u hosanau ar gefn y gadair, Â'u gwallt glas a phinc, maen nhw'n barod am hwyl.
"Ond beth yw'r Nadolig'? Does gyda ni ddim clem!"
Meddai’r ddwy, wrth yfed eu ‘eggnogs’ di-ri. “Bydd raid canfod yr ateb felly dewch draw ym mis Rhagfyr, I ddod o hyd i wir ystyr y Nadolig gyda ni.”
Yn y sioe theatr arddull cabare yma, mae Flossy a Boo yn mynd i'r afael â gŵyl y Nadolig, yr holl lanast a'r pennau tost...
Yn dilyn eu perfformiad ★★★★★ yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin, mae Flossy a Boo yn cymryd yr awenau yn The Other Room y Nadolig yma er mwyn dod â sioe feiddgar, chwareus a hollol hurt i chi. Sioe Nadolig sy'n llawn cerddoriaeth a chomedi, ar gyfer oedolion yn unig.
Ar gyfer pobl 15 oed neu'n hŷn
Hyd: tua 1 awr
Wedi'i hariannu'n wreiddiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Theatrau RhCT ac wedi'i chreu mewn cysylltiad â The Other Room Theatre.