Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Summer of '69

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Achlysur i'r Gymuned
Summer of '69

Yn y Bar Lolfa.

Hanner Sioe. Hanner Gig.

Dyma hanes criw o'r cymoedd sydd wrth eu boddau yn chwarae cerddoriaeth fyw, ond sydd ddim yn cytuno ar unrhyw beth arall! Mae'r sioe yn ein tywys ni ar daith lle mae'r criw yma'n defnyddio cerddoriaeth eu bywydau ac yn dod yn sêr byd enwog yn eu stryd eu hunain.

Mae cwmni Spectacle Theatre a'r band hirsefydlog leol, The Semantics, wedi dod at ei gilydd er mwyn dathlu'r caneuon sydd wedi bod yn rhan o'n bywydau ers y 60au. Dewch i weld a ydych chi'n gwybod y caneuon ac yn sylwi ar y cyfeiriadau at ganeuon enwog - mae'n bosibl eu bod nhw'n rhan o'ch hanes chi.


Oed 14+