Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.
Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.
Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.
Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.
Beth sy'n digwydd pan bod gyda chi'r teimlad eich bod chi'n diflannu?
Mae Rhys eisiau bod yn focsiwr ac mae ei dad eisiau dysgu Cymraeg. Mae Yasmin yn byw gyda'i mam-gu ac mae ei mam eisiau bod yn edrych dros wastatiroedd Uganda. Dydy'r plant ddim yn gallu siarad â'u rhieni, a dydy'r rhieni ddim yn deall sut mae eu plant yn teimlo.
Yn y ddrama deimladwy a doniol yma gan Mari Lloyd, gwelwn y byd trwy lygaid dau berson ifanc 18 oed mewn cyn-dref lofaol fechan yng Nghymru wrth iddyn nhw geisio amgyffred gweithredoedd eu rhieni a dechrau sylweddoli fod gyda nhw bethau mwy i frwydro drostyn nhw.
Gyda Phillip John Jones ac Emma Kaler
Cyfarwyddo gan Julia Stubbs
Cafodd STILL HERE ei berfformio am y tro cyntaf yn y London Fringe yn 2023. Cafodd y ddrama adolygiadau rhagorol gan adolygwyr a chynulleidfaoedd, a chafodd y ddau actor enwebiad am wobr. Mae Still Here Productions ar y cyd â 20 South Street yn dod â’r ddrama glodwiw yma i Theatr y Parc a'r Dâr yn rhan o daith De Cymru ym mis Mawrth 2025.
“Mari Lloyd’s poignantly funny play about two teenagers trying to find their way in an unforgiving and uncertain world is a real treat.” ★★★★ Fairy Powered Productions
Oedran: Dros 14 oed
Gwybodaeth am y Cynnwys: iaith gref drwyddi draw; cyfeiriad at hunan-niweidio ac ymgais i farw drwy hunanladdiad
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.