Drama fodern y Gorllewin Gwyllt yw Showdown sy'n cyfosod arwr yr un steil â Clint Eastwood, ond yn y presennol yn Ne Cymru.
Ysgrifennwyd y sgript gan yr awdur lleol sydd wedi ennill llawer o wobrau, Lewis Carter. Fe hefyd yw'r cyfarwyddwr ynghyd â chyfarwyddwr gweithredol Fine Rolling, Kristian Kane.
Mae'r ffilm wedi'i saethu mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws de Cymru ac mae'r brif rôl yn cael ei chwarae gan Charlie Lock, actor awtistig 11 oed o Fynwent y Crynwyr. Nod y ffilm yma yw codi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli pobl awtistig yng Nghymru i wireddu eu breuddwydion.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.