Ar y 5ed o Hydref 1957, cyhoeddodd yr actor, canwr, mabolgampwr ac ymgyrchydd iawnderau sifil, Paul Robeson ei ddarllediad trawsatlantig enwog i Eisteddfod y Glowyr yn y Pafiliwn Mawr.
Er mwyn coffau’r achlysur hanesyddol hwn a dathlu’r cysylltiad diwylliannol cyfoethog rhwng y lleoliad hwn, y glowyr a’r cymoedd, bydd Theatr Ieuenctid Pen-y-bont yn cyflwyno darn theatr newydd sbon gan ddefnyddio ffilm, dawns a cherddoriaeth fyw.
Cynhyrchiad wedi’i greu gan y bobl ifainc mewn partneriaeth a Roger Burnell, Louise Osborne, John Rea a Gavin Porter, ac wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.