O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Rhondda Rips It Up! Opera Cenedlaethol Cymru

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Cerddoriaeth
Rhondda Rips It Up! Opera Cenedlaethol Cymru
Rriu7
Rriu10
Rriu11
Rriu16
Rriu17
Rriu18


Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno adloniant comig rhyfeddol.

Yn cynnwys Lesley Garrett

Cyfarwyddwr Caroline Clegg

Arweinydd Nicola Rose

Boneddigion a Boneddigesau! Mae WNO yn eich gwahodd yn gynnes i Bremière Byd eu comedi cerddorol afieithus ac anfarwol o ddigrif Rhondda Rips It Up!

Crëwyd yr adloniant tafod yn y boch hwn er eich pleser gan y disglair Ms Elena Langer (cyfansoddwr a swffragét) a’r dihafal Ms Emma Jenkins (libretydd a swffragét).

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym fynd â chi ar daith fythgofiadwy drwy fywyd ac anturiaethau arwres anhysbys mudiad y Swffragetiaid yng Nghymru, Margaret Haig Thomas, Is-iarlles Rhondda.

Yn Swffragét, ymgyrchydd ac entrepreneur, paratôdd yr Arglwyddes Rhondda y ffordd ar gyfer hawliau cyfartal i fenywod. Yn ogystal ag ymgyrchu’n ddiflino dros hawl menywod i bleidleisio, roedd yn fwch dihangol i ymdrechion merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, goroesodd drychineb suddo’r Lusitania a sefydlodd y cylchgrawn ffeministaidd radicalaidd Time and Tide. Cafodd ei hymdrechion diflino eu gwobrwyo o’r diwedd pan, yn 1918, etholfreiniwyd menywod dros 30 oed.

Mae’r daith fywiog a doniol hon drwy fyd etholfraint a chân yn cael ei hadrodd drwy gyfrwng y neuadd gerddoriaeth ac yn addas iawn, menywod yn unig yw aelodau’r cast a’r tîm cynhyrchu. Tywysir y gynulleidfa drwy’r stori gan ein Emcee ni (Lesley Garret) ac mae’n olrhain anturiaethau Lady Rhondda (Madeleine Shaw) a’r fyddin ddewr o swffragetiaid wrth iddynt ymgiprys yn eofn ag Arglwyddi, gwleidyddion a blychau post yn eu hymdrech i sicrhau hawliau i ferched.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.