One Man, Two Guvnors








gan Richard Bean
Wedi’i seilio ar The Servant of Two Masters gan Carlo Goldoni
Caneuon gan Grant Olding
Cyfarwyddwyd gan Richard Tunley
Gyda - Gareth John Bale, Lee Gilbert & Phylip Harries.
Mae Black RAT Productions yn cyflwyno fersiwn newydd sbon a hynod ddoniol o gomedi llwyddiannus Richard Bean sydd eisoes wedi cael ei berfformio yn y West End a Broadway.
Ar ôl cael ei wrthod o’i fand skiffle, daw Francis Henshall i weithio i Roscoe Crabbe, dihiryn o’r Dwyrain sydd wedi dod i Brighton i gasglu £6000 oddi wrth dad ei ddarpar wraig. Ond y gwir yw, ei chwaer Rachel sy’n esgus bod yn Roscoe, a gafodd ei ladd gan gariad Rachel, Stanley Stubbers!
Wrth dreulio amser yn y Cricketers Arms, mae’r Francis craff yn bachu’r cyfle i ennill arian ychwanegol gan gymryd ail swydd â neb llai na Stanley Stubbers. Mae Stanley Stubbers yn cuddio o’r heddlu ac yn aros i gael ei aduno â Rachel. Er mwyn osgoi cael ei ddal, rhaid i Francis gadw’r ddau ‘Guvnor’ ar wahân.
Syml.
Black RAT Productions, Cynhyrchiad ar y cyd â Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Theatrau RhCT wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Oed 14+