Wedi'i ohirio: Ned and The Whale








gan Flossy and Boo a Theatrau RhCT.
Mae hanes hudol 'Ned and the Whale' yn dechrau ychydig fel hyn...
Llawn swagro a thasgu, mae'r stori 'ma'n boddi
ag arogl rhyfedd o bysgod
Er bod Ned yn ddeallus, roedd ei ddewrder yn warthus
Am fod ei chwaer yn un annheg
gan adrodd straeon y twyllwyr -
“bydd teyrnas yr ysbïwyr,
yn eich cipio a chymryd eich dueg!”
Dyma stori forwrol llawn hud ac antur! Bydd 'Ned and the Whale' yn eich hwylio chi ar daith i helpu Ned i ddod o hyd i'w ddewrder, yn ogystal â datgelu'r gwir am Deyrnas yr Ysbïwyr...
Fe welwch chi diroedd od, dianc rhag y Trotwoods (yr efeilliaid drewllyd iawn), hedfan drwy'r awyr yng nghwmni'r Clackerjacks. Byddwch chi'n plymio i mewn i'r daith yma gan fachgen a'i forfil.
Yn dilyn eu llwyddiant â sioeau eraill 'The Curiosity Shop a 'The Legendary Adventure of Litla the Brave', dyma Flossy and Boo yn cyflwyno sioe hudolus arall sy'n eich tywys chi'n ddi-ofn i ben pellaf eich dychymyg drwy eu dull adrodd straeon od ac unigryw.