Bydd llinell archebu ein Swyddfa Docynnau ar gau rhwng dydd Mawrth, 24 Rhagfyr tan ddydd Iau, 2 Ionawr ond bydd modd ichi barhau i brynu tocynnau ar-lein yn rct-theatres.co.uk/cy/.

Rydyn ni'n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch chi.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

More Than A Mum

Yn Stiwdio 1

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 14 Mai 2025 Celfyddydau: Comedi
More Than A Mum

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 14 Mai 2025 Mer 14 Mai 2025 14 Mai 25 7:30yh

Ymunwch â Susie am sioe gomedi un fenyw sy’n trin a thrafod bywyd rhiant mewn ffordd ddoniol ac agos atoch chi! Mae’r dyddiau o ddisgwyl diweddglo hapus i straeon tylwyth teg wedi hen fynd heibio - mae hi bellach yn gwybod mai’r peth mwyaf hudolus yw cofleidio'r hurtrwydd a byw i’r funud gyda'r plant.

Rhwng yr holl rolio llygaid a dilyn cyngor magu plant ar YouTube, mae Susie yn adrodd hanes ei hantur fel Mam, ac yn ein hatgoffa ni nad bod yn anniolchgar yw cyfaddef bod rhianta’n anodd - mae’n gwbl naturiol.

Gyda straeon ffraeth a fydd yn gyfarwydd i sawl un, mae hi'n amlygu hurtrwydd bywyd bob dydd, o drafodaethau chwithig i adegau llawn dryswch lle mae angen cadw’r ddysgl yn wastad. Mae Susie yn eich gwahodd i chwerthin wrth iddi drafod ffolineb y cyfan, gan roi sicrwydd ein bod ni ddim ar ein pennau ein hunain ar y daith yma.

Felly, os ydych chi'n barod i gyfnewid dyheu am berffeithrwydd am noson o chwerthin a chyfeillgarwch, dewch i ymuno â Susie! Ar ddiwedd y dydd, y ffordd orau o oresgyn heriau rhianta yw mwynhau a dod o hyd i hapusrwydd ymysg yr holl anrhefn - dyna ddechrau'r stori go iawn. Paratowch am noson o hiwmor calonogol sy’n profi bod rhianta perffaith yn amherffaith.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.