Bydd llinell archebu ein Swyddfa Docynnau ar gau rhwng dydd Mawrth, 24 Rhagfyr tan ddydd Iau, 2 Ionawr ond bydd modd ichi barhau i brynu tocynnau ar-lein yn rct-theatres.co.uk/cy/.

Rydyn ni'n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch chi.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Mike Peters from The Alarm – Love Hope Strength

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 21 Mai 2025 Celfyddydau: Gair ar lafar
Mike Peters from The Alarm – Love Hope Strength

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 21 Mai 2025 Mer 21 Mai 2025 21 Mai 25 7:30yh

Mae wedi bod yn yrfa ryfeddol. Creodd Mike Peters, blaenwr The Alarm, un o hoff fandiau roc Prydain ar ddechrau'r 1980au. Fe lenwodd arenâu wrth iddo berfformio rhai o’i ganeuon enwog, gan gynnwys Sixty Eight Guns, Spirit of '76 ac Absolute Reality, ac fe berfformiodd ar ddechrau sioeau U2 a Bob Dylan.

Mae llawer mwy i'r dyn yma a dderbyniodd MBE yn 2019. Mae Mike wedi goresgyn canser sawl gwaith, ac mae hanes ei fywyd yn wirioneddol ysbrydoledig a rhyfeddol. I gyd-fynd â chyhoeddi ei hunangofiant aml-argraffiad – Love Hope Strength – mae Mike yn mynd ar daith.

Bydd modd i chi ddisgwyl caneuon acwstig, straeon nodedig a noson agos-atoch gydag un o oroeswyr mawr y byd roc.

£40.00 Tocyn VIP. Mae'r pecyn yn cynnwys y seddi gorau a bag nwyddau.

£65.00 Tocyn Cwrdd a Chyfarch: Pecyn yn cynnwys cyfle i eistedd yn seddi'r llawr; bag o anrhegion a chyfle i gwrdd a chyfarch Mike cyn y sioe - cyrhaeddwch am 5.30pm i ddechrau'r sesiwn Cwrdd a Chyfarch am 5.45pm.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.