Bydd y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth 11.00am–2.00pm.

O ddydd Iau 12 Medi fydd y Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

O ddydd Mawrth 1 Hydref, bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor 1pm-4pm rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener i gwsmeriaid heb fynediad i'r rhyngrwyd neu y byddai'n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Mike Bubbins: Throwback.

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Comedi
Mike Bubbins: Throwback.

Mae'r achlysur yma wedi'i ohirio. Os ydych wedi prynu tocynnau bydd aelod o garfan y Swyddfa Docynnau yn cysylltu â chi cyn bo hir.

Mae Mike Bubbins, seren y podlediad poblogaidd The Socially Distant Sports Bar, a rhaglenni comedi'r BBC Mammoth, Tourist Trap a The Unexplainers, yn mynd ar ei daith stand-yp unigol gyntaf yn y DU, THROWBACK. Mae’n ddigon posib na fydd pethau byth yr un fath eto.

Mae THROWBACK yn awr bwerus, bryfoclyd, dwys o gomedi stand-yp sy'n gwthio ffiniau, yn mynd yn erbyn disgrifiadau twt a thaclus y gymdeithas, ac yn herio'r gynulleidfa...

JÔC WRTH GWRS!

Mewn gwirionedd, dyma awr a hanner o straeon hynod ddoniol, cymeriadu trawiadol, cân neu ddwy (gawn ni weld sut mae pethau'n mynd, meddai Mike), ychydig o hiraeth am yr hen ddyddiau da, rhywfaint o optimistiaeth am y dyddiau newydd da, a Mike yn chwerthin am fywyd a cheisio peidio â chymryd ei hun, nac unrhyw beth arall, ormod o ddifrif. Wedi dweud hynny, fe allai, ar ryw adeg yn y sioe, wylltio tuag at dwpsod - y rhai o'r gorffennol, y presennol neu'r dyfodol. Gall fynd yn flin iawn!

Felly yn y bôn, mae THROWBACK yn sioe gomedi lle mae Bubbins yn rhannu'r hyn y mae'n ei chael yn ddoniol, ac yn dod â hyn oll yn fyw. Mae'n gysyniad comedi ddigon syml, a dweud y gwir.

They asked me to do a UK comedy tour, called THROWBACK...and so I did.’ Mike Bubbins

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.