“I’ve had nearly eighteen years of yesterdays and tomorrows, and tonight I must remember as many of them as I can. Tonight, more than any other night of my life, I want to feel alive!”
Mae Private Peaceful yn adrodd hanes bywyd Milwr Cyffredin Tommo Peaceful, milwr ifanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n disgwyl i fynd wyneb yn wyneb â'r fintai saethu gyda'r wawr. Yn ystod y nos, mae e'n edrych yn ôl ar ei fywyd byr a llawen: ei ddiwrnodau cyntaf cyffrous yn yr ysgol; y damwain a laddodd ei dad yn y goedwig; ei anturiaethau â Molly, ei gariad; a brwydrau ac anghyfiawnder y rhyfel a ddaeth ag ef i flaen y gad.
Enillodd y llyfr yma Wobr 'Llyfr y Flwyddyn' Blue Peter, mae Private Peaceful "yr un mor deimladwy â barddoniaeth Wilfred Owen, ac yr un mor boenus o gofiadwy â (The Sunday Herald).
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.