O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Make It! Commission Platform

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Achlysur i'r Gymuned
Make It! Commission Platform

Mae Make It! yn gartref i egin-dalent greadigol yn RhCT. Rydym yn hynod falch o allu rhoi cymorth i’r artistiaid ysbrydoledig hyn wrth iddynt arwain ar eu prosiectau amrywiol a chyffrous.

PWY FYDD YN CYMRYD RHAN

Madeira Cake gan Marina Johnson

Rhan o ddrama newydd sy’n edrych ar hanes Ffatri Burberry yn Nhreorci, a gaewyd yn 2007.

Songs and Stories gan David McSault

Perfformiad byw o gerddoriaeth ac adrodd stori, am gariad a cholomennod. Yn benodol, Pablo (y golomen).

Steps of Resilience gan Kyle Stead

Casgliad newydd o ddarnau llafar sy’n archwilio themâu’n ymwneud â dosbarth, trawma a hunaniaeth.

Tower Boy gan Dylan Price

Darlleniad wedi ei ymarfer o ran o ddrama wreiddiol, yn edrych ar yr effaith fawr mae cau’r pyllau glo lleol wedi ei gael ar gymunedau.

Treorchy gan Lucy Jones

Deuawd ddawns sy’n lythyr cariad i Dreorci, tref enedigol Lucy, gyda barddoniaeth gan fam-gu Lucy.

2003 and Me gan Menna Rogers

Rhan o ddrama ddwyieithog (Saesneg/Cymraeg) un-fenyw yn ymdrin â hynt a helynt tair menyw ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau.

Y canllaw oedran ar gyfer Llwyfan Comisiynau Make It! yw 16+.

IAP/BSL gan Emma Horton. Bydd yr holl ffilmiau byr yn cynnwys capsiynau.

Ariennir Make It! trwy gynllun ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.

Trefnir gan Blant y Cymoedd. Rhif elusen: 1074840

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.