Around the World in 80 Days - nod Mark Beaumont oedd gwneud y gwaith ffuglen Fictoraidd yma'n realiti; ar ddwy olwyn! Ar ôl curo'r Record Byd am gylchfordwyo ar feic ddwywaith yn ystod ei yrfa, fe yw'r bencampwr am deithio 18,000 milltir mewn 78 diwrnod a 14 awr, gyda chyfartaledd o 240 milltir y dydd.
Dros y degawd diwethaf, mae rhaglenni dogfen Mark wedi mynd â'u gwylwyr i dros 100 o wledydd, i mewn i'r Arctig, dros fynyddoedd uchel ac o amgylch y Gymanwlad, yn ogystal â goroesi cwch yn troi drosodd yng nganol dyfroedd yr Iwerydd. Drwy ffilmiau a lluniau, mae'r achlysur yma'n fewnwelediad i yrfa anturiaethus Mark.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.