Loot

Gan Joe Orton
Wedi'i gyfarwyddo gan Richard Tunley
Wedi'i gynllunio gan Sean Crowley
Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Mae'r garfan oedd yn gyfrifol am 'One Man, Two Guvnors' y llynedd yn cyflwyno fersiwn wreiddiol, wych o gampwaith hiwmor tywyll Joe Orton.
Mae Dennis yn gweithio i drefnwr angladdau. Mae Mam Hal newydd farw. Mae comedi slapstic hurt yn gymysg â moeseg amheus wrth i'r ddau ffrind ifanc guddio arian sydd wedi ei ddwyn o fanc yn arch y Fam, wrth geisio osgoi plismon cynddeiriog, nyrs trachwantus a gŵr gweddw sy'n galaru.
Ar ôl cuddio'r arian yn ddiogel, does dim lle i Mam ac mae ei chorff yn parhau i ymddangos ar yr amserau lleiaf cyfleus ac mae ein lladron di-egwyddor yn baglu o un sefyllfa i'r nesaf gyda chanlyniadau hynod o ddoniol.
Mae ffars glasurol Orton yn gymysgedd gogoneddus o wallgofrwydd, anghywirdeb gwleidyddol a hiwmor tywyll. Weithiau'n syfrdanol, weithiau'n drysu ond bob amser yn aruthrol ddigrif, mae hyn yn brofiad theatrig na ddylech chi ei golli!
Addas ar gyfer Oedran 14+
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru