Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

LES MISERABLES: THE STAGED CONCERT LIVE! (40TH ANNIVERSARY) (12A)

Dyma Ddangosiad Ffilm o'r Cyngerdd Llwyfan.

Canolfan: Y Colisëwm Celfyddydau: Digwyddiadau Sinema
LES MISERABLES: THE STAGED CONCERT LIVE! (40TH ANNIVERSARY) (12A)

Addas ar gyfer unigolion sy'n 12 oed a hŷn. Ni chaiff plant iau fynychu heb fod yng nghwmni oedolyn.

Er mwyn nodi pen-blwydd sioe gerdd fwyaf poblogaidd y byd yn 40 oed, dyma gyfle unigryw i brofi'r fersiwn cyngerdd llwyfan anhygoel ar y sgrîn fawr gyda chast yn llawn wynebau enwog cyfarwydd: Michael Ball; Alfie Boe; Carrie Hope Fletcher; Matt Lucas a John Owen Jones.

Gyda chast a seindorf o dros 65 unigolyn, bydd y perfformiad yn cynnwys y caneuon ‘I Dreamed A Dream’, ‘Bring Him Home’, ‘One Day More’ ac ‘On My Own’. Peidiwch â methu'r cyngerdd llwyfan rhagorol yma – mae’n berffaith ar gyfer y rheiny sy'n mwynhau sioeau cerdd.

Hyd y ffilm: 3 awr, 2 funud - yn cynnwys toriad.