Jools Holland & his Rhythm & Blues Orchestra

yn cynnwys GILSON LAVIS
a'r gwestai arbennig MARC ALMOND
Cantorion gwadd RUBY TURNER, LOUISE MARSHALL a ROSIE MAE
Mae Brenin y boogie-woogie, Jools Holland, yn eicon gwirioneddol i Brydain.
Mae'n enwog am ei sioeau byw cyffrous yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth boogie-woogie, swing, jas, a Rhythm a'r Felan. Gyda'i fand o 20 o gerddorion, a chantorion gwadd â lleisiau syfrdanol, mae'r sioe yn sicr o fod yn uchafbwynt eich blwyddyn! (A'n huchafbwynt ni hefyd!)
Fel canwr blaen y band Soft Cell, mae Marc Almond wedi gwerthu dros 30 miliwn o recordiau dros y byd i gyd; ymhlith ei holl ganeuon ysgubol mae Say Hello, Wave Goodbye, Touch a Tainted Love.
“I didn’t think anybody could play like that. Jools has got that left hand that never stops.” – BB King
Mae'r cyngerdd arbennig yma'n rhan o Ŵyl Gelfyddydau Rhondda yn Nhreorci - wythnos o achlysuron a gweithgareddau sy'n dathlu creadigrwydd yng Nghwm Rhondda.