Bydd y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth 11.00am–2.00pm.

O ddydd Iau 12 Medi fydd y Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

O ddydd Mawrth 1 Hydref, bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor 1pm-4pm rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener i gwsmeriaid heb fynediad i'r rhyngrwyd neu y byddai'n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

John Barrowman: Laid Bare

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 21 Chwefror 2025 Celfyddydau: Cerddoriaeth
John Barrowman: Laid Bare

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 21 Chwefror 2025 Gwen 21 Chwef 2025 21 Chwef 25 7:30yh

Ar werth: Dydd LLun 12 Awst 10.00am.

Yn ei sioe newydd bydd John Barrowman yn parhau i rannu ei frwdfrydedd a'i gariad tuag at gerddoriaeth a stori dda. Mae pob cân, boed yn glasur o Broadway neu’n gân boblogaidd gyfoes, yn arddangos ei arddull a'i lais unigryw.

Bydd e'n rhannu rhai o'i hanesion personol a'i egni bywiog gyda'r gynulleidfa mewn achlysur i'w gofio a fydd yn siŵr o godi'ch calon. Mae Laid Bare yn fwy na chyngerdd, mae'n ddathliad o'r gelfyddyd, yr angerdd, a'r llawenydd sy'n mynd law yn llaw â cherddoriaeth.

Canllaw Oedran: Dros 16 oed

Profiadau VIP ychwanegol - y cyntaf i'r felin gaiff falu!

Beth am ychwanegu rhywbeth arbennig at eich noson gyda'r profiadau arbennig yma?

Sesiwn Holi ac Ateb a chyfle i weld y Gwiriad Sain Cyn y Sioe - £50.00 yn dechrau am 5.30pm (cyrhaeddwch erbyn 5:15pm).

Bydd hyn yn digwydd cyn y sioe yn yr awditoriwm, fe gewch chi gip bach ar wiriad sain John, lle bydd e'n perfformio cwpl o ganeuon ac yna’n cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb. Bydd dim modd tynnu lluniau na hunluniau yn ystod y sesiwn yma.

Llun, Cwrdd a Chyfarch ar ôl y Sioe - £40.00

Bydd hyn yn digwydd ar ôl y sioe - bydd y rhai sydd â thocynnau Cwrdd a Chyfarch yn aros yn yr awditoriwm ac yn cael cyfle i gwrdd â John a thynnu llun gyda fe (gan ddefnyddio eu ffôn neu gamera eu hunain).

Cynnig arbennig: Prynwch docyn i'r sesiwn Holi ac Ateb/Gwiriad Sain ac i'r sesiwn Llun, Cwrdd a Chyfarch gyda'i gilydd am £80.00 yn hytrach na £90.00.

Cliciwch yma i fanteisio ar y cynnig unigryw yma

Nodwch: Fydd eich tocyn sioe ddim wedi'i gynnwys yn y pris ar gyfer y sesiwn Holi ac Ateb/Gwiriad Sain na'r sesiwn Llun, Cwrdd a Chyfarch. Bydd raid prynu'r tocynnau yma ar wahân.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.