Jason & The Argonauts

Yn rhan o benwythnos ‘Get Creative’ y BBC. Tocynnau am ddim.
Addasiad Mark Williams
Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Sefydliad Glowyr y Coed Duon a Theatrau RhCT
Person cyffredin yw Jason mewn byd sy'n llawn dop â duwiau, anghenfilod ac arch-arwyr. Mae'n cronni tîm o Argoforwyr grymus, ac yn mynd â'r llong Argo fawreddog ar yr antur eithaf - cyrch y Cnu Aur.
Ond nid ar chwarae bach mae gwneud hyn. Ar hyd y ffordd, mae yna Frenhinoedd penwan, Ellyllesau erchyll, Seireniaid sinistr... hen sôn am fyddin sgerbydau Meirwon y Ddaear. A oes gan Jason rinweddau arwrol, ac a all ddod â'r Cnu Aur adref?
Wedi ei addasu ar gyfer y llwyfan gan yr awdur ei hun, Mark Williams, sy'n adnabyddus am greu fersiynau llwyfan o'r Hanesion Hyll. Fersiwn newyd sbon o'r chwedl glasurol yw Jason & The Argonauts – profiad theatraidd gwefreiddiol sy'n llawn gobaith, calondid a hiwmor i'r teulu cyfan.
Ar gyfer plant 7+ oed a'u teuluoedd
Yn ogystal, bydd gweithdy celf a chrefft yn cael ei gynnal am 5.00pm – dim ond ychydig o leoedd sydd ar gael a nid oes modd cadw lle ar-lein. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau i gadw eich lle.