Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Jack & The Beanstalk: Nadolig 2025

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 13 - 24 Rhagfyr 2025 Celfyddydau: Panto
Jack & The Beanstalk: Nadolig 2025

Perfformiadau

  • Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 2025 Sad 13 Rhag 2025 13 Rhag 25 2:00yh 6:00yh
  • Dydd Sul 14 Rhagfyr 2025 Sul 14 Rhag 2025 14 Rhag 25 2:00yh BSL R 6:00yh
  • Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025 Gwen 19 Rhag 2025 19 Rhag 25 7:00yh
  • Dydd Sadwrn 20 Rhagfyr 2025 Sad 20 Rhag 2025 20 Rhag 25 2:00yh 6:00yh
  • Dydd Sul 21 Rhagfyr 2025 Sul 21 Rhag 2025 21 Rhag 25 2:00yh
  • Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 Maw 23 Rhag 2025 23 Rhag 25 10:30yb 3:00yh
  • Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 Mer 24 Rhag 2025 24 Rhag 25 10:30yb 3:00yh

Wedi'i gyflwyno gan Theatrau RhCT

Wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Tunley.

Fee Fi Fo Fum - paratowch ar gyfer hwyl y panto!

Dyma hanes Jack druan, sy'n cael ei anfon i'r farchnad gan ei fam i werthu'r fuwch sy'n cael ei thrysori gan y teulu. Dydy e ddim yn gwybod y bydd cyfnewid Daisy annwyl am fag o ffa yn arwain at antur fythgofiadwy!

Gyda'r castell yn y cymylau, iâr euraidd, telyn yn canu a choeden ffa enfawr gyda chawr cas iawn ar ei brig, mae hwn yn banto teuluol traddodiadol yn llawn o effeithiau arbennig hudol, golygfeydd ysblennydd a chomedi.

Perfformiad mewn amgylchedd ar gyfer ymlacio ar Dydd Sul 14 Rhagfyr 2.00pm ar gyfer plant ifainc ac unrhyw un a fyddai'n gwerthfawrogi awyrgylch mwy hyblyg, hamddenol i fwynhau'r sioe. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chroeso i unrhyw un adael yr awditoriwm a dod yn ôl yn ystod y perfformiad. Bydd drysau'r theatr yn agor 30 munud cyn y sioe er mwyn caniatáu amser i ymgyfarwyddo â’r awditoriwm.

Perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain ar Dydd Sul 14 Rhagfyr 2.00pm.
Cynhelir perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer pobl ag anawsterau clyw sydd â Iaith Arwyddion Prydain fel eu dewis iaith. Bydd cyfieithydd yn sefyll ar un ochr i'r llwyfan ac yn dehongli'r holl berfformiad wrth iddo ddigwydd. ​



Mae perfformiadau ar gyfer ysgolion ar gael ar dydd Mawrth 16 a dydd Mercher 17 Rhagfyr 9.45am a 12.30pm. Mae'r rhain ar gael i grwpiau ysgol yn unig. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu anfonwch e-bost at swyddfadocynnau@rctcbc.gov.uk i gadw lle ar gyfer eich ysgol. Mae lle am ddim i un athro am bob 10 tocyn rydych chi'n eu prynu.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.