Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Jack & The Beanstalk : Nadolig 2025

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 28 Tachwedd - 7 Rhagfyr 2025 Celfyddydau: Panto
Jack & The Beanstalk : Nadolig 2025

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025 Gwen 28 Tach 2025 28 Tach 25 7:00yh
  • Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025 Sad 29 Tach 2025 29 Tach 25 2:00yh
  • Dydd Sul 30 Tachwedd 2025 Sul 30 Tach 2025 30 Tach 25 2:00yh
  • Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2025 Sad 6 Rhag 2025 6 Rhag 25 2:00yh AD R 6:00yh
  • Dydd Sul 7 Rhagfyr 2025 Sul 7 Rhag 2025 7 Rhag 25 2:00yh

Wedi'i gyflwyno gan Theatrau RhCT

Wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Tunley.

Fee Fi Fo Fum - paratowch ar gyfer hwyl y panto!

Dyma hanes Jack druan, sy'n cael ei anfon i'r farchnad gan ei fam i werthu'r fuwch sy'n cael ei thrysori gan y teulu. Dydy e ddim yn gwybod y bydd cyfnewid Daisy annwyl am fag o ffa yn arwain at antur fythgofiadwy!

Gyda'r castell yn y cymylau, iâr euraidd, telyn yn canu a choeden ffa enfawr gyda chawr cas iawn ar ei brig, mae hwn yn banto teuluol traddodiadol yn llawn o effeithiau arbennig hudol, golygfeydd ysblennydd a chomedi.

Perfformiad Ymlaciedig - dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2pm. Perfformiad ar gyfer plant ifainc ac unrhyw un a fyddai'n gwerthfawrogi awyrgylch mwy hyblyg, hamddenol i fwynhau'r sioe. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chroeso i unrhyw un adael yr awditoriwm a dod yn ôl yn ystod y perfformiad. Bydd drysau'r theatr yn agor 30 munud cyn y sioe er mwyn caniatáu amser i ymgyfarwyddo â’r awditoriwm.

Perfformiad â Sain Ddisgrifiad - dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2pm. Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy perfformiad â Sain Ddisgrifiad, sy’n addas ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy glustffonau sydd wedi’u cysylltu â'r system sain is-goch. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau os oes angen clustffonau arnoch chi.

Mae perfformiadau i ysgolion wedi'u trefnu ar gyfer dydd Iau 27 a dydd Gwener 28 Tachwedd, ac mae nifer o berfformiadau rhwng dydd Mawrth 2 a dydd Gwener 5 Rhagfyr ar gael i grwpiau ysgolion yn unig. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu anfonwch e-bost at swyddfadocynnau@rctcbc.gov.uk i gadw lle ar gyfer eich ysgol chi. Rydyn ni’n cynnig tocyn athro am ddim ar gyfer pob 10 tocyn sy’n cael eu prynu i’r plant.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.