Hysteria

Gan Terry Johnson
Cyflwyniad London Classic Theatre
Gyda
John Dorney
Ged McKenna
Summer Strallen
Moray Treadwell
“Pei cwstard o athrylith gomig” Time Out
1938. Hampstead, Llundain. Mae Sigmund Freud wedi ffoi o Awstria Natsïaidd ac wedi ymgartrefi yn ardal braf Swiss Cottage. Mae Freud yn heneiddio, ac mae'n bwriadu treulio ei ddyddiau olaf yn myfyrio'n dawel bach, ond pan ddaw Salvador Dali heibio, a darganfod menyw noeth yn y cwpwrdd, mae'r cyfan yn mynd yn siop siafins.
Dyma glasur modern o waith Terry Johnson. Ffars hynod o ddoniol sy'n archwilio beth sy'n digwydd pan ddaw dau o feddyliau mwyaf disglair a gwreiddiol yr ugeinfed ganrif at ei gilydd.
Terry Johnson yw un o ddramodwyr cyfoes mwya'r DU. Ymhlith ei lwyddiannau mae Mrs Henderson Presents, Dead Funny, Insignificance, The Graduate and Cleo, Camping, Emmanuelle a Dick.
Enillodd Hysteria Wobr Laurence Olivier am y Comedi Gorau ym 1994.