Bydd y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth 11.00am–2.00pm.

O ddydd Iau 12 Medi fydd y Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 2.00pm–5.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddynt sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Hometown Glory- A Tribute to Adele

Cyngerdd Ysblennydd Dan Olau Cannwyll

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 16 Mai 2025 Celfyddydau: Cerddoriaeth
Hometown Glory- A Tribute to Adele

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 16 Mai 2025 Gwen 16 Mai 2025 16 Mai 25 7:30yh

Dyma noson gartrefol i'w fwynhau; perfformiad dan olau cannwyll o lyfr caneuon hyfryd Adele, yn gwbl fyw mewn cyngerdd.

Bydd Natalie Black, sy'n serennu fel Adele, yn mynd ar daith gyda'i phianydd hynod dalentog ar gyfer y sioe yma.

Dyma berfformiad na ddylid ei golli, nid yn unig i gefnogwyr Adele, ond i unrhyw un sy'n dymuno mwynhau noson arbennig yn mwynhau ei chaneuon poblogaidd.

Mae Natalie, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cyflwyno ei pherfformiad mwyaf bregus eto, lle bydd ei chynhyrchiad, sydd wedi teithio'r byd ers 2011, hyd yn oed yn well nag o'r blaen.

Mae ansawdd lleisiol ac ymddangosiad Natalie heb ei hail, ac felly bydd yn gwneud hon yn noson i'w chofio.

Bydd eich hoff ganeuon Adele yn cael eu perfformio, gan gynnwys Set Fire to the Rain, Make You Feel my Love, Someone Like You, I Drink Wine,  a llawer yn rhagor.


“Right at the top of the tribute apex of sheer talent”

“True live music being played by real professionals” UK Review

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.