Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Guys & Dolls

A Musical Fable Of Broadway

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 9 - 12 Ebrill 2025 Celfyddydau: Sioeau Cerdd
Guys & Dolls

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 9 Ebrill 2025 Mer 9 Ebr 2025 9 Ebr 25 7:00yh
  • Dydd Iau 10 Ebrill 2025 Iau 10 Ebr 2025 10 Ebr 25 7:00yh
  • Dydd Gwener 11 Ebrill 2025 Gwen 11 Ebr 2025 11 Ebr 25 7:00yh
  • Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025 Sad 12 Ebr 2025 12 Ebr 25 7:00yh

Sioe wedi'i chyflwyno gan Showcase Performing Arts 

Neidiwch i fyd lliwgar o gemau taflu dis dirgel, merched disglair, a rhamant eithriadol yn un o gomedïau cerddorol mwyaf poblogaidd America. Mae’r sioe yn llawn o gymeriadau chwedlonol a chaneuon eiconig gan gynnwys Luck Be a Lady a Sit Down, You're Rockin' the Boat.

Mae'r cynhyrchiad amatur yma'n cael ei gyflwyno mewn trefniant gyda Music Theatre International (Ewrop). Gyda cherddoriaeth a geiriau gan Frank Loesser a llyfr gan Jo Swerling ac Abe Burrows.