WEDI'I GANSLO Golygfeydd o’r Pla Du:
Mae'r achlysur yma wedi'i ganslo. Os ydych chi wedi prynu tocynnau,bydd ein Swyddfa Docynnau yn cysylltu â chi i drefnu ad-daliad llawn.
gan Chris Harris
Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr
1348, Pentreufargirec. Mae anhrefn newydd wedi dod – y Pla. Mae Duw wedi bradychu'r bobl ac mae gwallgofrwydd o bwyntio bys, hela cathod a llosgi hereticiaid wedi boddi'r pentref yn y toiled.
I Twm y twyllwr, mae popeth yn gêm. Tra bod pobl yn marw, mae 'na ysgol gymdeithasol i'w ddringo. Ond o dan rheolaeth Casglwr Trethi sy'n chwilio am gariad a gwerthwr tail chwyldroadol sy'n annog meddwl agored ymhlith y werin, mae Twm yn sylweddoli bod gan rym llawer o rwystrau.
Comedi direidus, tywyll am argyfwng a llygredd. Croeso i'r Pla Du - does dim byd mwy doniol.
Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Chris Harris, mae’r ddrama hon yn Gynhyrchiad Theatrau Sir Gâr, wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a’i chefnogi gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Cynhyrchiad Cymraeg yw 'Golygfeydd o'r Pla Du', sy'n addas i blant dros 14 oed (mae'n cynnwys iaith gref, themâu ynghylch marwolaeth, salwch, sefyllfaoedd gwaedlyd, hiwmor sarcastig a phypedau fflwfflyd iawn).
Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru, ar gael ym mhob perfformiad. Trwy gyfrwng llais yn y glust, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan ac mae ar gael i aelodau’r gynulleidfa ei ddefnyddio ar eu ffonau a'u clustffonau eu hunain.