O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Gail Porter: Hung, Drawn and Portered

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 2 Mai 2024 Celfyddydau: Comedi
Gail Porter: Hung, Drawn and Portered

Perfformiadau

  • Dydd Iau 2 Mai 2024 Iau 2 Mai 2024 2 Mai 24 7:30pm

Mae'r achlysur yma wedi symud i'r Bar Cwtsh sydd ar ei newydd wedd yn Theatr y Colisëwm.

Byddwn ni'n cysylltu â phawb sydd â thocyn i roi gwybod am y newid yma.

Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Yn dilyn taith lwyddiannus iawn o sioeau oedd wedi gwerthu pob tocyn yng Ngŵyl Fringe Caeredin, mae Gail bellach yn mynd â'i sioe gomedi ddoniol ar daith.

A hithau’n enwog am ei bywiogrwydd ynghyd â'i brwydrau ag iechyd meddwl, mae hi wedi troi at gomedi er mwyn cymryd awenau ei stori ei hun.

Mae'r sioe newydd yma'n gofnod o'i phrofiadau bywyd: 'Os oes gyda fi broblem, rwy'n hoffi ei rhannu - boed yn ddigartrefedd neu golli fy ngwallt, dwi wedi bod mewn uned seiciatrig a dwi'n meddwl - beth yw'r peth gwaethaf fyddai'n gallu digwydd?'

A hithau'n unigolyn bywiog 25 mlwydd oed yn y 1990au, bu'n cyflwyno rhaglenni teledu megis Fully Booked, Top Of The Pops a Wish You Were Here.

Ond dechreuodd ei thaith wyro i gyfeiriad gwahanol pan gafodd lluniau noeth ohoni eu tynnu ar gyfer cylchgrawn FHM yn 1999. Cafodd hi gadarnhad na fyddai'r lluniau’n cael eu dangos i unrhyw un, ond yn hytrach cafodd llun ohoni ei daflunio ar Senedd San Steffan, yn ddelwedd 18 metr (60 troedfedd) o uchder. Y tro cyntaf iddi glywed am hyn oedd wrth iddi glywed ei henw ar y newyddion.

Yn 2005 fe ddatblygodd alopesia a daeth ei gyrfa ar y teledu fwy neu lai i ben dros nos.

Mae hyn hefyd wedi darparu cyfoeth o ddeunydd difyr iddi.

Mae gyrfa Gail wedi bod yn chwyrligwgan ac ar hyn o bryd mae hi'n mwynhau amlygrwydd newydd o ganlyniad i’w chomedi.

Tocyn Cwrdd a Chyfarch.

£32.00 Tocyn Cwrdd a Chyfarch. Mae'r pecyn yn cynnwys y seddi gorau, bag nwyddau a chyfle i gwrdd a sgwrsio gyda Gail cyn y sioe. Dewch erbyn 5.45pm ar gyfer y sesiwn Cwrdd a Chlebran am 6pm.



Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.